1. Cyflwyniad
Mae Gwefan https://multilingualmentoring.co.uk/cy/ yn eiddo i Brifysgol Caerdydd, a hi sy’n ei gweithredu.
Trwy ddefnyddio ein Gwefan, rydych yn derbyn y telerau hyn. Os nad ydych yn derbyn y telerau hyn, ni ddylech ddefnyddio’r Wefan.
2. Pwrpas y wefan
Bwriad y Wefan yw darparu gwybodaeth am brosiect Mentora Amlieithog (Mentora ITM yn flaenorol) a phrosiectau eraill a gyflwynir gan dîm Mentora Amlieithog, ac i rannu cynnwys a grëwyd gan ac ar gyfer y prosiectau hynny.
Caiff cynnwys ein Gwefan ei ddarparu at ddibenion addysgol yn unig ac fe’i cynlluniwyd ar gyfer cyd-destun dysgu iaith a llythrennedd yng Nghymru.
3. Hawliau eiddo deallusol
Mae’r Wefan, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) destun, cynnwys, postiadau, blogiau, meddalwedd, fideo, cerddoriaeth, sain, graffeg, darluniau, gwaith celf, enwau, logos, nodau masnach, a deunydd arall (Cynnwys) wedi’i diogelu gan hawlfraint, hawliau cronfeydd data, hawliau dylunio, nodau masnach a/neu hawliau eiddo deallusol eraill.
Ni sydd â holl hawliau eiddo deallusol y Cynnwys rydym yn ei greu. Ni ddylai eraill ddefnyddio’r Cynnwys hwn, gan gynnwys adnoddau addysgu a dysgu ar y Wefan, heb nodi o ble y daeth a heb gydnabod Mentora Amlieithog. Ni ddylid dyblygu nac ailgynhyrchu’r Cynnwys yn rhannol nac yn gyfan gwbl heb gael ein caniatâd ymlaen llaw. Mae hyn yn cynnwys defnyddio logo Mentora Amlieithog.
4. Firysau a Mmaleiswedd
Nid ydym yn gwarantu y bydd y Wefan yn ddiogel nac yn rhydd rhag bygiau, maleiswedd neu firysau. Mae defnyddwyr yn gyfrifol am ffurfweddu eu technoleg gwybodaeth, rhaglenni cyfrifiadurol a llwyfan i gael mynediad diogel i’r Wefan. Rhaid i chi beidio â chyflwyno firysau i’n Gwefan.
5. Cysylltu â’n Gwefan
Gallwch gysylltu ag unrhyw dudalen ar ein Gwefan, cyn belled â’ch bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy’n deg ac yn gyfreithlon ac nad yw’n niweidio ein henw da nac yn manteisio arno.
6. Hygyrchedd y Wefan
Rydym wedi ymrwymo i wneud y Wefan hon yn hygyrch ac yn ddefnyddiol i gynifer o bobl â phosibl. Ein nod yw cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG) 2.1 safon AA a gwella hygyrchedd ein cynnwys digidol yn barhaus.
Os ydych yn cael unrhyw anhawster i gael mynediad at wybodaeth ar y Wefan hon neu os oes angen cynnwys mewn fformat arall (PDF hygyrch, print bras neu fformatau hygyrch eraill), cysylltwch â ni: multilinguallmentoring@caerdydd.ac.uk a byddwn yn ymdrechu i’ch cynorthwyo.
7. Dolenni trydydd parti
Os yw’r Wefan yn cynnwys dolenni i Wefannau trydydd parti, fe’u darperir er gwybodaeth yn unig. Nid yw’r dolenni trydydd parti hyn yn cael eu hadolygugan y tîm Mentora Amlieithogac nid ydym o reidrwydd yn cymeradwyo nac yn ardystio eu cynnwys. Nid oes gennym reolaeth dros eu cynnwys ac nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am gynnwys trydydd parti.
8. Cyfyngiad atebolrwydd
Darperir y Cynnwys ar y Wefan hon er gwybodaeth gyffredinol ac at ddibenion addysgol yn unig.
Er y gwneir ymdrechion rhesymol i sicrhau bod y Cynnwys yn gywir ac yn gyfredol, ni roddir unrhyw warant ynghylch ei gywirdeb, ei gyflawnder na’i addasrwydd at unrhyw ddiben penodol. Ni fydd Prifysgol Caerdydd na thîm Mentora Amlieithog yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod sy’n deillio o ddefnyddio’r Wefan neu ei Chynnwys, neu o fethu â defnyddio’r Wefan neu ei Chynnwys.
9. Hysbysiad preifatrwydd
Bydd unrhyw ddata personol a gesglir trwy’r Wefan yn cael ei brosesu a’i gadw yn unol â’n Hysbysiad preifatrwydd.
10. Atal neu dynnu’r Wefan yn ôl
Er bod modd defnyddio ein Wefan a’i chynnwys yn rhad ac am ddim, rydym yn cadw’r hawl i atal neu dynnu mynediad i’r Wefan a’i chynnwys, heb rybudd ymlaen llaw.Gall hyn fod yn angenrheidiol am resymau cynnal a chadw, gweithredol, diogelwch neu resymau sefydliadol eraill.
11. Anghydfodau cyfreithiol
Rheolir y telerau ac amodau hyn, eu pwnc a’u lluniad gan gyfreithiau Cymru a Lloegr, fel y’u rhoddir ar waith yng Nghymru. Bydd gan lysoedd Cymru a Lloegr sy’n eistedd yng Nghymru awdurdodaeth lwyr i benderfynu ar unrhyw anghydfod neu hawliad sy’n codi mewn cysylltiad â’r telerau hyn.
12. Diweddarwyd ddiwethaf
Efallai y bydd angen i ni ddiweddaru’r telerau ac amodau bob hyn a hyn, felly argymhellwn eich bod yn adolygu’r wybodaeth hon o bryd i’w gilydd. Diweddarwyd y fersiwn hon ddiwethaf ar 14 Gorffennaf 2026.
13. Manylion cyswllt
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y telerau ac amodau hyn, cysylltwch â Mentora Amlieithog, multilingualmentoring@cardiff.ac.uk.
