Sut rydym yn defnyddio deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol (genAI)

Dyma fersiwn hawdd ei darllen o’n dogfen sy’n esbonio sut rydym yn defnyddio genAI yn y prosiect. Mae’r canllaw llawn ar gael yma.

Beth yw AI cynhyrchiol?

Mae deallusrwydd artiffisial (AI) yn dechnoleg sy’n gallu cyflawni tasgau sydd fel arfer yn cael eu cysylltu â deallusrwydd dynol.

Mae AI cynhyrchiol, neu genAI, yn cynnwys offer fel ChatGPT, Microsoft Copilot, Gemini a Claude. Gall yr offer hyn greu cynnwys newydd, megis testun, delweddau a syniadau, mewn ymateb i gwestiynau neu gyfarwyddiadau  gan ddefnyddwyr. Er y gall yr offer hyn fod yn ddefnyddiol, mae ganddynt hefyd gyfyngiadau a risgiau sylweddol.

Mae Mentora Amlieithog yn credu mai’r peth pwysicaf yw meddwl yn feirniadol am AI cynhyrchiol. Mae hyn yn golygu deall beth y gall ac na all yr offer hyn ei wneud, cwestiynu eu hatebion, a phenderfynu’n ofalus pryd a sut i’w defnyddio. Mae hefyd yn bwysig deall eu heffaith.

Nid ydym yn dweud wrth fentoriaid, athrawon nac unrhyw un arall sy’n rhan o’r prosiect fod rhaid iddynt ddefnyddio AI cynhyrchiol, nac ychwaith fod rhaid iddynt osgoi ei ddefnyddio. Fodd bynnag, mae tîm y prosiect yn ofalus iawn wrth ddefnyddio AI cynhyrchiol ac nid yw’n defnyddio AI cynhyrchiol fel sail i’w waith. Os byddwn yn defnyddio AI cynhyrchiol, byddwn yn glir ynglŷn â hynny (gweler y datganiad tryloywder ar waelod y dudalen hon).

Sut gall AI cynhyrchiol fod yn ddefnyddiol?

Pan gaiff ei ddefnyddio’n ofalus, gall genAI helpu gyda rhai tasgau.

Datblygu syniadau

Gall genAI awgrymu syniadau neu ffyrdd gwahanol o fynd ati i wneud tasg. Gall hyn fod yn ddefnyddiol wrth gynllunio gweithgaredd neu greu adnodd.

Fodd bynnag, mae’n bwysig bod person bob amser yn gwirio, yn cwestiynu ac yn golygu’r awgrymiadau hyn.

Arbed amser

Gall genAI helpu gyda thasgau syml, ailadroddus neu weinyddol. Gall hyn roi mwy o amser i bobl ganolbwyntio ar waith lle mae barn, creadigrwydd a gwneud penderfyniadau yn bwysig.

Gwneud gwybodaeth yn fwy hygyrch

Gall genAI weithiau symleiddio testunau anodd, addasu gwybodaeth ar gyfer gwahanol lefelau darllen, neu gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd wahanol.

Gweithio mewn mwy nag un iaith

Gall genAI helpu i ddrafftio neu addasu cynnwys mewn gwahanol ieithoedd. Fodd bynnag, nid yw’r safon yr un fath ym mhob iaith. Gall AI gynhyrchu canlyniadau llai dibynadwy mewn rhai ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg, oherwydd bod llai o ddata ar gael i’w ddefnyddio wrth hyfforddi AI.

Felly, mae’n bwysig bod rhywun sy’n adnabod yr iaith yn dda yn gwirio unrhyw gyfieithiadau.

Beth yw’r risgiau?

Mae rhai risgiau ynghlwm wrth ddefnyddio AI cynhyrchiol. Gellir lleihau rhai o’r rhain drwy ddefnyddio AI yn ofalus, ond mae rhai eraill yn rhan o’r dechnoleg ei hun.

Gall AI wneud camgymeriadau

Gall genAI roi atebion sy’n ymddangos yn gywir ac yn argyhoeddiadol. Ond gall yr atebion hyn fod yn anghywir, yn anghyflawn, yn seiliedig ar wybodaeth nad yw’n gyfredol, neu hyd yn oed gynnwys gwybodaeth nad yw’n wir.

Beth ddylech chi ei wneud?

Gwiriwch wybodaeth bwysig gan ddefnyddio ffynonellau dibynadwy. Peidiwch â chymryd yn ganiataol fod ateb gan AI cynhyrchiol yn gywir.

Dibynnu gormod ar AI

Os byddwch yn dibynnu ar AI i feddwl neu greu cynnwys ar eich rhan, efallai y bydd gennych lai o gyfleoedd i ddatblygu eich syniadau, eich barn a’ch sgiliau datrys problemau eich hun. Gall genAI hefyd roi atebion sy’n cytuno â chi yn hytrach na herio eich tybiaethau.

Beth ddylech chi ei wneud?

Ceisiwch feddwl am syniadau eich hun yn gyntaf. Defnyddiwch genAI fel cymorth, ond peidiwch â dibynnu arno i wneud y gwaith meddwl.

Rhagfarn a stereoteipiau

Mae genAIyn dysgu o wybodaeth sydd wedi’i chreu gan bobl. Gall y wybodaeth hon gynnwys rhagfarnau (er enghraifft, rhagfarn ar sail hil neu ryw). Gall AI ailadrodd y rhagfarnau hyn ac atgyfnerthu stereoteipiau. Gall hyn olygu nad yw rhai cymunedau neu grwpiau o bobl yn cael eu cynrychioli’n deg, neu y gall rhai grwpiau gael eu trin yn annheg.

Beth ddylech chi ei wneud?

Meddyliwch yn feirniadol am gynnwys sydd wedi’i greu gan genAI. Gofynnwch i chi’ch hun a yw safbwyntiau a phrofiadau gwahanol bobl wedi’u cynrychioli, ac a yw’r cynnwys yn trin pobl a chymunedau’n deg.

Preifatrwydd a gwybodaeth bersonol

Nid yw bob amser yn glir sut mae rhai offer genAI yn storio ac yn defnyddio gwybodaeth y mae pobl yn ei rhoi iddynt. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ymdrin â gwybodaeth am bobl ifanc, ysgolion neu bobl eraill.

Beth ddylech chi ei wneud?

Peidiwch byth â rhoi gwybodaeth bersonol, gyfrinachol neu sensitif mewn offeryn genAI oni bai eich bod yn sicr fod gennych ganiatâd i wneud hynny a bod yr offeryn wedi’i gymeradwyo i’w ddefnyddio at y diben hwnnw.

Perchnogaeth a llên-ladrad

Mae cwestiynau pwysig ynghylch o ble mae cynnwys a grëwyd gan AI yn dod a phwy sy’n berchen arno. Mae systemau genAI yn dysgu o lawer iawn o ddeunydd sy’n bodoli eisoes, gan gynnwys deunydd a grëwyd gan awduron, artistiaid a phobl eraill.

Mae hefyd yn bwysig bod yn onest ynghylch pryd mae AI cynhyrchiol wedi helpu gyda’ch gwaith.

Beth ddylech chi ei wneud?

Dilynwch y rheolau perthnasol ynghylch hawlfraint ac uniondeb academaidd, a nodwch yn glir pryd rydych wedi defnyddio genAI i’ch helpu gyda’ch gwaith.

Effaith amgylcheddol

Mae’r systemau AI mwyaf yn defnyddio llawer o ynni a dŵr. Gall hyn effeithio ar yr amgylchedd, a gall y canolfannau data sy’n cefnogi AI hefyd effeithio ar gymunedau lleol.

Beth ddylech chi ei wneud?

Peidiwch â defnyddio genAI heb feddwl yn gyntaf. Ystyriwch a oes gwir angen ei ddefnyddio ar gyfer y dasg.

Ein prif neges

Gall AI cynhyrchiol fod yn ddefnyddiol, ond nid yw hynny’n golygu ei fod bob amser yn gywir, yn deg, yn ddiogel nac yn angenrheidiol.

Os ydych yn rhan o Fentora Amlieithog ac yn ystyried defnyddio genAI, cofiwch:

  1. Meddyliwch yn gyntaf: Oes gwir angen defnyddio AI ar gyfer y dasg hon?
  2. Gwarchodwch eich preifatrwydd: Peidiwch â rhannu gwybodaeth bersonol na sensitif.
  3. Gwiriwch y cynnwys: Gall AI wneud camgymeriadau.
  4. Chwiliwch am ragfarn: Ystyriwch a yw safbwyntiau a phrofiadau gwahanol bobl yn cael eu cynrychioli.
  5. Daliwch ati i ddefnyddio eich barn eich hun: Dylai AI gefnogi barn, creadigrwydd a gwneud penderfyniadau pobl, nid eu disodli.
  6. Byddwch yn agored: Os yw AI wedi helpu gyda’ch gwaith, nodwch hynny.

Y peth pwysicaf oll yw gwybod pryd, pam ac a oes angen defnyddio AI yn y lle cyntaf.

Llyfryddiaeth ac adnoddau defnyddiol

Artificial intelligence (AI) | Definition, Examples, Types, Applications, Companies, & Facts | Britannica. 2026. Available at: https://www.britannica.com/technology/artificial-intelligence.

Beckingham, S., Lawrence, J., Powell, S., Hartley, P. and Francis, T.&. 2024. Using generative AI effectively in higher education: Sustainable and ethical practices for learning, teaching and assessment. London: Routledge.

Cheng, M., Lee, C., Khadpe, P., Yu, S., Han, D. and Jurafsky, D. 2026. Sycophantic AI decreases prosocial intentions and promotes dependence. Science 391(6792).

Chidlow, D. 2026. AI terminology is poorly defined and oft misused. Available at: https://vale.rocks/posts/ai-terminology.

Generative AI & education guidance hub. [no date]. Available at: https://www.imperial.ac.uk/about/leadership-and-strategy/provost/vice-provost-education/education/resources/ai-education-hub/.

Hendrycks, D. et al. 2025. A definition of AGI. [Working paper].

Hosseini, M., Gao, P. and Vivas-Valencia, C. 2025. A social-environmental impact perspective of generative artificial intelligence. Environmental Science and Ecotechnology 23, p. 100520.

King’s guidance on generative AI for teaching, assessment and feedback. [no date]. Available at: https://www.kcl.ac.uk/about/strategy/learning-and-teaching/ai-guidance.

Moravec, V., Gavurova, B. and Kovac, V. 2025. Environmental footprint of GenAI – Changing technological future or planet climate? Journal of Innovation & Knowledge 10(3), p. 100691.

Shaw, S.D. and Nave, G. 2026. Thinking—Fast, slow, and artificial: How AI is reshaping human reasoning and the rise of cognitive surrender. [Working paper].

Tully, S.M., Longoni, C. and Appel, G. 2025. Lower artificial intelligence literacy predicts greater AI receptivity. Journal of Marketing 89(5), pp. 1–20.

Zewe, A. 2025. Explained: Generative AI’s environmental impact. Available at: https://news.mit.edu/2025/explained-generative-ai-environmental-impact-0117.

Datganiad Tryloywder

Cafodd y ddogfen hon ei chynhyrchu gyda chymorth cyfyngedig Microsoft Copilot, sef offeryn AI cynhyrchiol sydd wedi’i drwyddedu i’w ddefnyddio gan Brifysgol Caerdydd. Roedd defnyddio’r offeryn yn rhan o ymrwymiad y prosiect i ymgysylltu’n feirniadol ag AI cynhyrchiol. Ystyriwyd awgrymiadau a gynhyrchwyd gan AI ochr yn ochr â ffynonellau eraill a barn broffesiynol staff. Yr awdur sy’n gyfrifol am gynnwys terfynol y ddogfen.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â multilingualmentoring@cardiff.ac.uk.