Datganiad cydraddoldeb, amrywiaeth, a chynhwysiant
Mae Mentora Amlieithog (Mentora ITM yn flaenorol) wedi ymrwymo i gefnogi, datblygu a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein holl arferion a gweithgareddau, a dileu gwahaniaethu anghyfreithlon.
Ein nod yw hyrwyddo amrywiaeth er mwyn adlewyrchu’r gymuned rydyn ni’n ei gwasanaethu, a sicrhau bod ein polisïau, ein gwasanaethau a’n cynnyrch yn adlewyrchiad cywir o anghenion ein cymuned. Mae Mentora Amlieithog wedi ymrwymo i hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb. Nid ydym yn goddef gwahaniaethu, aflonyddu, bwlio nac erledigaeth ar sail unrhyw nodwedd warchodedig yn unol â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys oed, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, rhyw, na chyfeiriadedd rhywiol.
Fel rhan o’n hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, rydym yn meithrin diwylliant cynhwysol heb wahaniaethu ac yn seiliedig ar garedigrwydd, urddas a pharch. Gofynnwn yn garedig i bawb sy’n gysylltiedig â’r prosiect gael eu parchu bob amser. Ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o homoffobia, trawsffobia, hiliaeth, rhywiaeth, ableddiaeth nac unrhyw wahaniaethu neu ymddygiad amhriodol arall wedi’i anelu at fyfyrwyr, athrawon, dysgwyr, aelodau o dîm y prosiect, neu unrhyw randdeiliad arall sy’n ymwneud â Mentora Amlieithog.
Er mwyn gwarchod diogelwch, llesiant a chynhwysiant yr holl gyfranogwyr, rydym yn cadw’r hawl i adolygu cyfranogiad ac, yn ôl ein disgresiwn llwyr, i atal unigolion nad sy’n gweithredu yn unol â’n gwerthoedd cymunedol a rennir, fel y’u hamlinellir yn y Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant hwn ac yn y Cod Ymddygiad. Disgwyliwn i bawb helpu i gynnal amgylchedd parchus, a byddwn yn gweithredu ar unwaith os na fydd y disgwyliadau hynny’n cael eu bodloni. Bydd unrhyw fater yn cael ei drin yn unol â pholisïau a gweithdrefnau perthnasol Prifysgol Caerdydd ac, os yw’n briodol, yn cael ei gyfeirio at awdurdodau allanol a’i adolygu yn unol â’r gyfraith berthnasol, megis Deddf Cydraddoldeb 2010.
