Cyhoeddiadau

Mae Mentora Amlieithog yn brosiect sydd wedi’i seilio ar ymchwil ac sy’n gwneud cyfraniad gweithredol at ymchwil. Mae aelodau tîm Mentora Amlieithog wedi cyhoeddi’n helaeth ym meysydd dysgu ieithoedd, polisi ac addysg. Cyfrannodd y prosiect at gyflwyniad Ysgol yr Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd i’r REF 2021, a bydd yn cyfrannu at gyflwyniad Ysgol y Dyniaethau Byd-eang i’r REF 2028.

Caiff unrhyw allbynnau a gyhoeddwyd cyn 2026 eu cyflwyno o dan yr enw Mentora ITM, sef yr enw blaenorol ar y prosiect.